Newyddion

Marathon Llundain

Mae Hannah Garnett, ffisiotherapydd yma yn Ysbyty Glan Clwyd, am redeg Marathon Llundain ar Ebrill 26ain, 2020, er budd ein helusen.   Mae modd ei noddi ar Virginmoneygiving.com neu drwy lenwi ffurflen noddi sydd ar gael o’r ty. Diolch yn fawr iawn Hannah!!

Te prynhawn yn Capel Marli

Cafwyd te prynhawn hyfryd yn Capel Marli. Roedd yn braf i cwrdd â ffrindiau newydd ac ychydig o rai ‘hen’. Llawer o ddiolch i Llinos am ei hymdrechion ac i holl wragedd y Capel am y cacennau anhygoel a’r brechdanau blasus! Derbynwyd siec hael iawn o £200. Pa mor wych yw hyn?