Amdanom ni

Mae Tŷ Croeso – yn dŷ chwe ystafell wely ar dir Ysbyty Glan Clwyd sy’n darparu llety dros nos i rieni, gofalwyr a theuluoedd babanod a phlant gwael sydd wedi cael eu derbyn i’r wardiau pediatrig yn yr ysbyty.   Mae hefyd yn cynnig cyfleusterau dydd i deuluoedd plant sy’n gronig wael sy’n mynychu’r ysbyty yn rheolaidd a’r rhai sy’n derbyn gofal lliniarol.
Adeiladwyd y tŷ yn 1993 gan ddefnyddio arian gan sefydliadau elusennol, y gymuned leol a chyfraniad mawr gan rieni merch ifanc o’r enw Dawn Elizabeth Williams a fu farw’n 25 oed yn dilyn damwain ffordd.  Mae’r tŷ wedi ei enwi er cof am Dawn Elizabeth.

Chwech lloft

Mae yna chwe lloft liwgar yn Tŷ Croeso sy’n cael eu defnyddio gan deuluoedd a gofalwyr plant sâl. Mae yr ystafelloedd yn cael digon o olau ac yn gallu cynnig preifatrwydd a chysur y mae’r teuluoedd ei angen ar amser anodd iawn.

Gegin fodern

Mae’r gegin hefo offer byse chi’n disgwyl drws nesaf i’r ystafell byw. Mae yne oergell/rhewgell, digon o gypyrddau a microdon er hwylustod.

Ystafell fyw fawr

Mae ystafell fyw gyda chadeiriau a soffa i ymlacio a hefyd ystafell wydr disglair iawn sy’n edrych dros ein gardd.

Gardd heddychlon

Ceir gardd fechan lle mae Tŷ Croeso yn edrych ar ôl ac os ydych chi’n lwcus cewch weld anifeiliaid gwyllt sy’n ymweld, â lle mae’r plant yn cyffroi o weld bob amser.

Mae gan yr ysbyty uned gofal dwys newyddenedigol (NICU), sy’n darparu ar gyfer Cymru gyfan a thu hwnt. Gall teuluoedd o bellteroedd mawr yn aros yn Tŷ Croeso pan fo eu babanod yn cael eu hanfon i’r uned ar gyfer gofal hanfodol. Mae rhai o’r teuluoedd hyn yn aros gyda ni am wythnosau lawer, ac rydym yn cynnig yr holl gyfleusterau sydd ganddynt yn eu cartrefi eu hunain. Mae teuluoedd cleifion oncoleg pediatrig sy’n dod i’r ysbyty yn rheolaidd yn defnyddio cyfleusterau yn y Tŷ pryd bynnag y maent yn yr ysbyty ac mae croeso iddynt gwrdd â pherthnasau neu staff meddygol yn ein hystafell eistedd pan deimlir fod hyn yn fwy priodol nag ar y ward. Mae y tŷ yn cael ei staffio gan grŵp o ugain o wirfoddolwyr  o elwir PALS (cyswllt cymorth llety rhiant) a dau weithiwr cyflogedig rhan-amser. Mae arweinwyr gweithgareddau’r a’u syddogaeth yw edrych ar ol y ty ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau cyhoeddus. Maent hefyd yn rhaglennu gweithgareddau i godi arian ar gyfer rhedeg y tŷ ac heb yr arian hanfodol hwn ni fyddai’n bossib parhau a’r ddarpariaeth. Bydd y tŷ yn hafan dawel a chyfforddus i rieni o fewn ysbyty brysur iawn. Mae’n rhedeg yn eithaf anffurfiol ac sydd yn anogi rhieni i deimlo’n gartrefol dan amgylchiadau anodd iawn. Mae Tŷ Croeso hefyd yn dibynnu ar y cyfraniadau a geir gan deuluoedd sy’n aros am rodd o £10 yr wythnos am aros yn ein cymuned ond mae y mwyafrif yn  cyfrannu hael mewn llawer o ffyrdd. Os gallwch ein helpu mewn unrhyw fodd cysylltwch â ni ar y rhif ffôn uchod. Defnyddir pob ceiniog a gawn er budd ein teuluoedd.